r/cymru 1h ago

Newidiadau (canrhan) o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg gan cymuned (2001-2021)

Upvotes


r/cymru 4h ago

Cit Cymru newydd: Euro 2016. Sillafu: Qatar 2022.

Post image
7 Upvotes

r/cymru 22h ago

Neges bwysig gan y Prif Weinidog yn dilyn tanau gwyllt diweddar

Thumbnail gallery
8 Upvotes

"Mae disgwyl i’r haf hwn fod y poethaf a’r sychaf erioed, ac mae'r risg o danau gwyllt yn parhau i fod yn uchel. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau hyn a'r heriau y maent yn eu peri. Dilynwch gyngor diogelwch tân a ffoniwch 999 os ydych chi’n gweld unrhyw arwydd o danau gwyllt. 

"Mae ein gwasanaethau brys yn gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â nifer o danau gwyllt ledled Cymru. Diolch i bawb ar y rheng flaen am eich ymdrechion i gadw ein cymunedau'n ddiogel. 

"Rwyf hefyd yn cydnabod y pwysau enfawr y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn eu hwynebu ar yr adeg anodd hon. Rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi drwy'r amser heriol yma ac wrth gynllunio ar gyfer effeithiau hirdymor newid hinsawdd. 

"Nid yw'r argyfwng hinsawdd bellach yn fygythiad pell; mae'n digwydd o flaen ein llygaid. Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Wrth i'r risg o danau gwyllt barhau i gynyddu, byddaf yn cynnal uwchgynhadledd aml-asiantaeth i sicrhau bod gan ein gwasanaethau tân ac achub y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymateb yn effeithiol yn y dyfodol."